27 Hydref 2015
Annwyl Huw a Julie
Cais am wybodaeth i lywio gwaith craffu ar y Gyllideb Ddrafft 2016-17
Diolch i chi am gytuno i fod yn bresennol yng nghyfarfod y Pwyllgor Menter a Busnes ar 14 Ionawr i drafod Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2016-17.
Yr adroddiad ar gyllideb y llynedd
Fel y llynedd, hoffai’r Pwyllgor Menter a Busnes gael y llinellau gwariant unigol yn y gyllideb ar gyfer eich portffolio chi sy’n berthnasol i’r Pwyllgor hwn.
Ymrwymiadau’r Rhaglen Lywodraethu
O ran yr ymrwymiadau yn y Rhaglen Lywodraethu sydd o fewn eich portffolio chi, ac sy’n berthnasol i gylch gwaith y Pwyllgor hwn, byddai’r Pwyllgor yn gwerthfawrogi cael gwybodaeth mewn cysylltiad â’r canlynol:
Polisïau allweddol
Yn dilyn ein hymchwiliadau diweddar ac ein gwaith craffu ar y gyllideb ddrafft y llynedd, hoffai’r Pwyllgor yn benodol gael gwybodaeth am y polisïau a’r materion canlynol:
· Cymorth i helpu pobl, yn enwedig pobl ifanc, i gael gwaith, gan gynnwys Twf Swyddi Cymru a Hyfforddeiaethau;
· Prentisiaethau a chynlluniau dysgu yn y gwaith eraill;
· Y Fframwaith Ymgysylltu a Datblygu Ieuenctid a chymorth arall a anelir at bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET);
· Datblygu sgiliau, y Gronfa Blaenoriaethau Sector a chyllid sy’n gysylltiedig â’r Datganiad Polisi ar Sgiliau;
· Manylion y cyllid Ewropeaidd sydd ar gael ar gyfer pob un o’r pwyntiau uchod;
· Effaith y dyraniadau yn 2014-15 a 2015-16 ar golegau addysg bellach, a manylion am yr ymgysylltu a fu gyda’r sector i drafod eu dyraniadau ar gyfer 2016-17; effaith blaenoriaethu’r ddarpariaeth ar gyfer pobl ifanc 16-19 mlwydd oed; a’r effaith ar ddysgu rhan-amser oedolion mewn colegau addysg bellach;
· Y gyllideb ar gyfer Gyrfa Cymru a’r goblygiadau o ran cylch gorchwyl y sefydliad;
· Cyllid ar gyfer Gwyddoniaeth i Gymru, gan gynnwys hyrwyddo a chefnogi sgiliau STEM;
· Hyrwyddo a chefnogi entrepreneuriaeth ymhlith pobl ifanc;
· Y gyllideb ar gyfer addysg uwch, yn enwedig goblygiadau unrhyw newidiadau i’r cyllid ar gyfer Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru; asesiad wedi’i ddiweddaru o incwm ar gyfer y sector addysg uwch; a’r modelu diweddaraf o ran costau, fforddiadwyedd a gwerth am arian y Grant Ffioedd Dysgu;
· Cefnogaeth i’r polisi Ehangu Mynediad, gan gynnwys cyllidebau ar gyfer Grant Dysgu a Lwfans Cynhaliaeth Addysg Llywodraeth Cymru.
Ar gyfer pob polisi, fel y bo’n briodol, hoffai’r Pwyllgor weld:
· Manylion am gostau a / neu unrhyw waith a wnaed i asesu’r gost o roi’r polisïau hyn ar waith yn ystod cyfnod y gyllideb ddrafft (2016-17);
· Gwybodaeth yn ymwneud â sut y caiff y dulliau o weithredu’r polisi, a’r canlyniadau cysylltiedig, eu monitro a’u gwerthuso i ddangos gwerth am arian.
Rydym hefyd yn awyddus i weld:
· sut y mae cydraddoldeb, cynaliadwyedd ac ystyriaeth i’r Gymraeg wedi dylanwadu ar ddyraniadau’r gyllideb.
· y modd y mae’r gyllideb ddrafft yn adlewyrchu ymrwymiadau Llywodraeth Cymru o dan y Ddeddf Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, yn benodol sut y cafodd y dyletswyddau o dan y Ddeddf eu hystyried wrth baratoi’r gyllideb ddrafft, a sut y mae’n mynd i’r afael â’r angen i wneud y gorau o gyfraniad ... . [Llywodraeth Cymru] i gyflawni pob un o’r amcanion lles.
Gwariant ataliol
Mae gennym ddiddordeb, fel yr oedd gennym y llynedd, mewn ystyried gwariant ataliol fel rhan o’n gwaith craffu ar y Gyllideb Ddrafft. Y diffiniad o wariant ataliol yr ydym yn ei fabwysiadu at y diben hwn yw:
...gwariant sy’n canolbwyntio ar atal problemau ac sy’n lleddfu’r galw am wasanaethau yn y dyfodol drwy ymyrryd yn gynnar, a thrwy hynny sicrhau gwell canlyniadau a gwerth am arian.
Gan gofio’r diffiniad hwnnw, hoffai’r Pwyllgor gael gwybodaeth am:
· Y gyfran o’r gyllideb Addysg a Sgiliau a ddyrennir ar gyfer camau gwariant ataliol;
· Manylion y polisïau neu raglenni penodol yn eich portffolio sy’n berthnasol i gylch gwaith y Pwyllgor hwn y bwriedir iddynt fod yn ataliol (gan gynnwys: cymorth i bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant; cymorth i helpu pobl yn ôl i waith, a datblygu sgiliau); a
· Sut y caiff gwerth am arian rhaglenni o’r fath ei werthuso, gan ganolbwyntio’n arbennig ar beth yw’r mewnbynnau penodol a’r canlyniadau a fwriedir.
Darparu ar gyfer deddfwriaeth
Byddem hefyd yn hoffi gweld:
Byddem yn ddiolchgar o gael y wybodaeth uchod erbyn 17 Rhagfyr 2015.
Gyda llawer o ddiolch am ein cynorthwyo gyda’n gwaith craffu.
Yn gywir
William Graham AC
Cadeirydd y Pwyllgor Menter a Busnes